#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-841 Teitl y ddeiseb: Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Bendigeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol. Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried yn ffurfiol y cynnig amgen ar gyfer trydedd bont dros y Fenai, a gaiff ei hadnabod fel ‘Pont Bendigeidfran’ (fel y’i disgrifir yn y fideo hwn https://www.youtube.com/watch?v=Ty2q-ctJZKM).
Mae’r cynnig hwn yn cynnig buddion cynyddol o ran cost oes gyfan, ei allu i wella’r tirlun arbennig, buddion o ran traffig (o ran llif traffig a chadernid y rhwydwaith), lleddfu amgylcheddol, hybu twristiaeth, a hyrwyddo diwylliant Cymru. Mae hefyd yn cyd-fynd yn well â’r ddeddfwriaeth gyfredol, er enghraifft Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Ymddengys bod modd cyflawni’r cynnig hwn o safbwynt peirianyddol, a bydd yn ychwanegiad mwy priodol i’r ddwy bont fyd enwog y ceir eisoes yn y lleoliad hwn.
Rydym felly’n galw am asesu’r cynnig amgen hwn yn llawn ochr yn ochr â’r opsiynau gwreiddiol a gyflwynwyd yn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch trydedd bont dros y Fenai. |
Y cefndir
Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru ac mae’n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith, gan gynnwys yr A55.
Mae Pont Britanniayr A55 dros yr Afon Menai yn darparu cyswllt rhwng y tir mawr ac Ynys Môn. Mae’r bont yn cludo traffig y ffordd a’r rheilffordd, a hi yw’r unig ran o lwybr yr A55 sy’n ffordd unffrwd. Mae Pont Menai yn darparu cyswllt arall rhwng y tir mawr ac Ynys Môn ar hyd llwybr yr A55.
Nododd Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:
Mae’r A55 yn bwysig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Hon yw prif ffordd economaidd Gogledd Cymru ac mae’n rhan o lwybr yr Euro 22 ar y rhwydwaith ffyrdd ledled Ewrop. Pont Britannia yw’r unig ran o’r ffordd ym Mhrydain sydd heb ffordd ddeuol.
Mae hyn yn arwain at dagfeydd ar y bont, ac mae Llywodraeth Cymru nawr yn bwriadu adeiladu trydedd bont dros y Fenai.
Trydedd bont dros y Fenai
Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae’n bwriadu cyflawni’r canlyniadau a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2020 (y tymor byr) a thu hwnt (y tymor canolig). Mae’r Cynllun yn darparu amserlenni ar gyfer ariannu a darparu cynlluniau sydd i’w cyflawni gan Lywodraeth Cymru. Rhestrodd Cynllun 2015 welliannau’r ‘A55 Pont dros y Fenai’ fel un o gynlluniau seilwaith ffyrdd newydd Llywodraeth Cymru.
NododdLlywodraeth Cymru fel a ganlyn:
... Daeth astudiaeth ddiweddar i’r casgliad na fyddai gwella capasiti drwy gyflwyno system draffig llanw a thrai dair ffordd ar y Bont Britannia bresennol yn bodloni safonau diogelwch gofynnol.
Felly, cwblhawyd achos busnes amlinellol strategol yn y Gwanwyn 2016 a gadarnhaodd yr angen am drydedd bont dros y Fenai. Atgyfnerthwyd hyn yn y Diweddariad 2017 o’r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol a oedd yn cynnwys ‘Trydedd bont dros y Fenai’ fel cynllun newydd.
Cynigion o ran llwybr
Penododd Llywodraeth Cymru ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth dewis llwybr, gyda’r bwriad o ddewis y llwybr a ffefrir ar gyfer y bont, ac ymgynghorwyd ynghylch nifer o opsiynau rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Mawrth 2018.
Mae pob opsiwn wedi’i werthuso gan ddefnyddio’r Canllawiau Cynllunio ac Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a chynhwyswyd canlyniadau’r gwerthusiad hwn ar gyfer pob llwybr yn y ddogfen ymgynghori (PDF, 36.4MB). Ynghyd ag awgrymu llwybrau newydd, mae’r ymgynghoriad yn amlinellu gwahanol opsiynau ar gyfer strwythur a dyluniad pont newydd.
Cynnig ‘Pont Bendigeidfran’
Mae’r ddeiseb yn cynnig dewis arall i’r rhai a nodir yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, ac mae’n galw am gynnal asesiad llawn o’r dewis hwn ochr yn ochr â’r opsiynau eraill.
Nodir opsiwn y deisebydd yn y fideo hwn, ac mae’n awgrymu y dylai pont newydd gael ei chynllunio i ddangos Bendigeidfran, o Straeon y Mabinogion, yn dal y bont. Mae’r cynnig yn amlinellu dyluniad a awgrymir ar gyfer y bont, a fyddai’n defnyddio’r ‘llwybr porffor,’ fel y’i nodir yn y ddogfen ymgynghori (PDF, 36.4MB). Mae’r deisebydd yn awgrymu y dylai’r bont gael ei henwi yn ‘Bont Bendigeidfran’.
Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dyddiedig 24 Medi 2018, mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, yn nodi bod cynnig y deisebydd:
... wedi’i asesu gyda’r ymatebion eraill i’r ymgynghoriad hwn ... [a byddaf] yn cyhoeddi’r Llwybr a Ffefrir yn seiliedig ar y gwaith hwn yn fuan.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn amlygu yn ei lythyr, ar ôl nodi’r llwybr a ffefrir:
... bydd angen mwy o ddadansoddi i ddatblygu strwythur addas ... fel rhan o gam nesaf datblygu’r cynllun. (Gellir asesu cynigion y deisebwr) ymhellach felly, a’u hystyried yn ystod y cam nesaf hwn.
Cyhoeddwyd datganiad o ran y llwybr a ffefrir ar 11 Hydref 2018 a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad (PDF, 1MB). Cyhoeddodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru wedi dewis y llwybr ‘porffor’ fel y llwybr a ffefrir. Gwneir rhagor o waith yn awr ar ddyluniad y bont a’r cynllun cyffredinol.
Ym mis Ebrill 2018, yn ystod a Dadl Plaid Cymru ar ailenwi Ail Bont Hafren, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod ef:
yn awyddus i gynnal ymgynghoriad lleol ynghylch enwi trydedd bont y Fenai. [Rhaid imi bwysleisio] mai ymgynghoriadau lleol fydd y rhain, i roi hawl i’r bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn rhoi hunaniaeth iddynt gael rhan yn y broses o’u henwi.
Gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet am y wybodaeth ddiweddaraf o ran y prosiect yn y Cyfarfod Llawn sawl gwaith. Yn fwyaf diweddar, mae trafodaethau wedi canolbwyntio ar y posibilrwydd i’r bont ddal seilwaith y Grid Cenedlaethol er mwyn croesi Afon Menai.
Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cynhelir astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio a oes modd cludo cysylltiad trydan ar drydedd bont arfaethedig y Fenai.